Blwyddyn gynefino

Fel athro newydd gymhwyso, bydd eich cyfnod cynefino yn asesiad sy'n para dros dri thymor. Mae hyn yn sicrhau bod eich gyrfa ddysgu'n dechrau ar sail gadarn.

Pam fod angen blwyddyn gynefino?

Drwy gyfrwng rhaglen bersonol o gefnogaeth a chymorth, mae'r cyfnod cynefino yn rhoi'r arfau i'r athrawon sydd newydd gymhwyso i fod yn athrawon llwyddiannus.

Ni chewch ddechrau ar eich cyfnod cynefino hyd nes eich bod wedi ennill statws athro cymwys (SAC). Rhaid i chi gwblhau'r holl brofion sgiliau cyn y byddwch yn ennill statws athro cymwys. Dysgwch fwy am y Statws Athro Cymwys (SAC).

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd eich cyfnod cynefino yn gyfnod o ddatblygiad â chefnogaeth, gan adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddysgu yn eich hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae'r cyfnod cynefino yn cynnwys dwy brif elfen:

  • rhaglen bersonol o gefnogaeth a datblygiad proffesiynol, ac
  • asesiad yn erbyn y safonau proffesiynol craidd ar gyfer athrawon.

Dysgwch fwy am y safonau proffesiynol craidd.

Sut mae'r broses gynefino'n gweithio?

Caiff y cyfnod cynefino ei asesu dros gyfnod sy'n cyfateb i dri thymor ysgol llawn, gydag asesiad ar ddiwedd pob tymor. Gellir ei wneud yn llawn amser neu'n rhan amser.

Tuag at ddiwedd pob tymor eich cyfnod cynefino, dylech drefnu cyfarfod â'ch tiwtor cynefino neu'ch pennaeth ar gyfer asesiad ffurfiol. Prif ffocws y cyfarfodydd hyn fydd eich datblygiad tuag at gyflawni'r safonau proffesiynol craidd.

Ar ôl pob un o'r ddau gyfarfod cyntaf, dylai'r pennaeth lunio adroddiad i'r awdurdod lleol neu i Banel Cynefino Athrawon Cyngor yr Ysgolion Annibynnol (ISCtip), yn nodi eich datblygiad tuag at gyflawni'r safonau proffesiynol craidd.

Ar ôl yr asesiad ar ddiwedd eich trydydd tymor, bydd eich pennaeth yn gwneud argymhelliad i'r awdurdod lleol neu i'r ISCtip ynghylch a ydych wedi cyflawni'r safonau proffesiynol craidd ai peidio. Bydd yr awdurdod lleol neu'r ISCtip yn penderfynu a ydych wedi diwallu'r gofynion ar gyfer cwblhau'r cyfnod cynefino'n llwyddiannus, a byddant yn ysgrifennu at eich pennaeth ac i'r Cyngor Addysgu Cyffredinol i gyfleu'r penderfyniad hwn. Yna bydd y Cyngor Addysgu Cyffredinol yn ysgrifennu atoch i ddweud a ydych wedi cwblhau'r cyfnod cynefino'n llwyddiannus ai peidio.

Darllenwch fwy am sut mae'r broses gynefino'n gweithio.

Pa gefnogaeth y byddaf yn ei chael?

Fel athro newydd gymhwyso, yn ogystal â'ch rhaglen datblygu proffesiynol unigol, byddwch yn cael:

  • gostyngiad o 10 y cant yn eich amserlen ddysgu i roi amser i chi feithrin eich sgiliau addysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn ychwanegol at eich 10 y cant statudol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu (CPA).
  • cefnogaeth gan diwtor cynefino
  • adolygiadau rheolaidd ar eich datblygiad, a
  • thrafodaethau ffurfiol ar ddiwedd pob tymor gyda'ch tiwtor a/neu'ch pennaeth.

Darllenwch fwy am beth y gallwch ei ddisgwyl yn ystod eich cyfnod cynefino.

Cwestiynau poblogaidd

Darllenwch rai cwestiynau poblogaidd am y cyfnod cynefino a'r Statws Athro Cymwysedig, neu am y broses gynefino.

“Efallai eich bod yn poeni am drefnu eich amser, rheoli ymddygiad neu gynllunio eich gwersi, ond erbyn diwedd eich blwyddyn gynefino byddwch yn hen law ar y sgiliau hyn.”

Damian Collins
Mentor cynefino mewn ysgol uwchradd yn Swydd Gaerhirfryn