Cyllid ar gyfer hyfforddi yng Nghymru

Mae sawl ffynhonnell o gyllid ar gael i chi yn ystod eich hyfforddiant ac ar ôl i chi orffen.

Weithiau, mae faint o gyllid gewch chi'n dibynnu ar y pwnc a ddewiswch. Y pynciau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru yn 2008/09 yw:

  • dylunio a thechnoleg
  • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  • mathemateg
  • ieithoedd tramor modern
  • addysg grefyddol
  • cerddoriaeth
  • gwyddoniaeth, a
  • Chymraeg.

Os ydych chi'n hyfforddi i ddysgu yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer un neu fwy o'r canlynol:

Cyllid i israddedigion

Mae'n bosibl y bydd israddedigion sy'n hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd yn gymwys ar gyfer grant yn ystod y cyfnod maent ar leoliad yn yr ysgol. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy'n rhoi'r grantiau hyn (gwerth hyd at £1,000) i israddedigion ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru sy'n hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd mewn pwnc sy'n cael blaenoriaeth.

Cyllid i raddedigion

Mae gan raddedigion cymwys sy'n hyfforddi i fod yn athrawon hawl i gael bwrsari di-dreth pan fyddant yn hyfforddi. Mae gwerth y bwrsari hwn yn dibynnu ar ble rydych chi'n hyfforddi, pa bynciau a ddewisoch a phryd fyddwch chi'n dechrau ar eich cwrs. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i ddarllen y manylion llawn am y cyllid sydd ar gael a sut gallwch chi wneud cais.

Grantiau caledi a grantiau eraill

Mae grantiau caledi ar gael os oes anhawster nas rhagwelwyd yn codi a allai eich atal rhag parhau ar eich cwrs. Gall awdurdodau lleol ddarparu grantiau caledi bach ac mae help ychwanegol ar gael i fyfyrwyr dan amgylchiadau arbennig. Hefyd, mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael, gan gynnwys grantiau gofal plant a lwfansau ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag anabledd. Am ragor o wybodaeth am gymorth ariannol, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Yr atodiad cymhelliant cyfrwng Cymraeg

Mae'n bosibl y bydd athrawon uwchradd dan hyfforddiant sy'n hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n dilyn cyrsiau ôl-radd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon o fis Medi 2008 ymlaen, yn gymwys ar gyfer yr atodiad cymhelliant cyfrwng Cymraeg gwerth £1,500 (£1,800 ar gyfer hyfforddeion sy'n dilyn cyrsiau ym maes gwyddoniaeth neu fathemateg). Ei fwriad yw rhoi mwy o gefnogaeth i hyfforddeion er mwyn magu eu hyder i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon unigol sy'n rhan o'r cynllun fydd yn penderfynu pwy sy'n gymwys. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch pa gyrsiau sy'n gymwys i gael yr atodiad hwn gan ddarparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Cyllid yn y gwaith

Mae athrawon dan hyfforddiant ar y Rhaglen Athrawon Graddedig yn cael cyflog gan eu hysgol. Bydd hyn o leiaf yn gyfwerth â'r isafswm ar y raddfa gyflog ar gyfer athrawon sydd heb gymhwyso, ond efallai bydd eich ysgol yn dewis talu mwy i chi.

Yng Nghymru, mae ysgolion a gynhelir sy'n cefnogi hyfforddai ar y Rhaglen Athrawon Graddedig yn gymwys i gael grant gwerth £14,000 tuag at dalu cyflog yr hyfforddai a grant ychwanegol gwerth £4,300 i dalu costau hyfforddi.

Grantiau hyfforddi

Mae'n bosibl y bydd hyfforddeion ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon y dystysgrif addysg i raddedigion yng Nghymru yn gymwys i gael bwrsari di-dreth a elwir yn grant hyfforddi. Mae gwerth y grant hyfforddi yn dibynnu ar ba bynciau rydych chi wedi'u dewis a phryd fyddwch chi'n dechrau ar eich cwrs. Telir y grant hyfforddi yn uniongyrchol i chi gan eich darparwr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon mewn rhandaliadau misol yn ystod eich cwrs.

Grantiau dysgu yng Nghymru

Pan fyddwch wedi cwblhau eich Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a'ch blwyddyn gynefino, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant dysgu (ond bydd rhaid i chi dalu treth arno). Mae hwn yn debyg i'r taliadau croeso i swydd ddysgu sydd ar gael yn Lloegr.

Dyma'r pecyn o gymhellion fydd ar gael yng Nghymru (gan gynnwys grantiau dysgu a hyfforddi) ar gyfer hyfforddeion sy’n dechrau cyrsiau TAR ym mis Medi 2008:

  • Bydd hyfforddeion sy'n dechrau ar gyrsiau mathemateg a gwyddoniaeth yn gallu cael grant hyfforddi gwerth £7,200 a grant dysgu gwerth £5,000. Gall hyfforddeion mewn ieithoedd tramor modern, dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, Cymraeg, cerdd ac addysg grefyddol gael grant hyfforddi gwerth £7,200 a grant dysgu gwerth £2,500.
  • Bydd hyfforddeion sy'n dechrau ar gyrsiau celf, daearyddiaeth, hanes, addysg gorfforol, a Saesneg (gan gynnwys drama) yn gallu cael grant hyfforddi gwerth £4,200 ond nid ydynt yn gymwys i gael grant dysgu.
  • Bydd hyfforddeion graddedig sy'n dechrau ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon mewn ysgolion cynradd ar ôl 1 Medi 2008 yn gallu cael grant hyfforddi gwerth £2,200.

Bydd y pecyn o gymhellion sydd ar gael ar gyfer cyrsiau yng Nghymru yn sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn elwa ar yr un lefel o gefnogaeth - cymhellion ynghyd ag arian tuag at dalu ffioedd dysgu - â myfyrwyr yn Lloegr. Os ydych chi fel arfer yn byw yng Nghymru ac hefyd yn astudio yno, mae'n bosibl y bydd hawl gennych gael grant gwerth £1,890 i dalu ffioedd dysgu ac, fel rheol, nid oes rhaid ei ad-dalu. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael mwy o wybodaeth.

"Mae'r bwrsari wedi fy ngalluogi i astudio'n llawn amser. Roedd hyn yn bwysig gan fod llawer o waith i'w wneud ar y cwrs."

Terry Winterton
Hyfforddai TAR Gwyddoniaeth

Y camau nesaf

Cofrestrwch â'r TDA
Gallwn roi gwybodaeth a chyngor manwl i chi am faterion cyllido ac agweddau eraill sy'n ymwneud ag arian wrth i chi hyfforddi i fod yn athro. Hefyd, gan fod pethau'n newid drwy'r amser yn y maes, byddwn yn anfon y newyddion diweddaraf atoch am addysgu ac am hyfforddiant athrawon.

Ewch i wefan cefnogi myfyrwyr DCSF
Gallwch gael y manylion llawn am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i israddedigion yng Nghymru a Lloegr.

Holwch eich awdurdod lleol
Dysgwch fwy am ba gyllid a all fod ar gael i chi drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol. Defnyddiwch y manylion ar wefan DCSF i gael mynediad at eich awdurdod lleol.